Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 26 Mawrth 2014 i'w hateb ar 2 Ebrill 2014

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

 

1. Mick Antoniw (Pontypridd): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o fanteision gwasanaethau addysgol y BBC i bobl Cymru? OAQ(4)0409(ESK)

 

2. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y consortia rhanbarthol yng Nghymru? OAQ(4)0405(ESK)

 

3. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddysgu ymhlith carcharorion yng Nghymru? OAQ(4)0401(ESK)

 

4. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu cyllidebau ysgolion 1% yn uwch na'r cynnydd yng ngrant bloc Cymru? OAQ(4)0402(ESK)

 

5. Nick Ramsay (Mynwy): Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi ei rhoi i newid y ffordd y mae gwyddoniaeth yn cael ei haddysgu mewn ysgolion? OAQ(4)0403(ESK)

 

6. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysg entrepreneuriaeth yng Nghymru? OAQ(4)0411(ESK)

 

7. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Her Ysgolion Cymru Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0400(ESK)

 

8. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain? OAQ(4)0412(ESK)W

 

9. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth i godi safonau mewn ysgolion? OAQ(4)0407(ESK)W

 

10. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ganllawiau Llywodraeth Cymru ar atal bwlio mewn ysgolion? OAQ(4)0406(ESK)

 

11. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisi Llywodraeth Cymru ar addysgu disgyblion ag anghenion addysgol arbennig? OAQ(4)0404(ESK)

 

12. Christine Chapman (Cwm Cynon):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymagwedd Llywodraeth Cymru at ddysgu cymunedol? OAQ(4)0410(ESK)

 

13. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am nifer y prentisiaethau yng Nghymru? OAQ(4)0413(ESK)

 

14. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod llythrennedd ariannol ar gael i bawb yn y system addysg yng Nghymru? OAQ(4)0414(ESK)

 

Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

 

1. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynllun tocynnau teithio rhatach? OAQ(4)0395(EST)

 

2. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynllun peilot i gau Cyffordd 41 yr M4 ym Mhort Talbot? OAQ(4)0394(EST)

 

3. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU am ddatblygu'r system Metro yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(4)0404(EST)

 

4.Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pryd y mae'r Gweinidog yn disgwyl adrodd ar ganfyddiadau'r ymgynghoriad ar lwybrau mwy diogel i'r ysgol? OAQ(4)0396(EST)

 

5. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth yw blaenoriaethau'r Gweinidog ar gyfer datblygu Ardaloedd Menter yn y chwe mis nesaf? OAQ(4)0405(EST)

 

6. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ffordd osgoi y Bontnewydd a Chaernarfon? OAQ(4)0401(EST)W

 

7. David Rees (Aberafan): Pa ddadansoddiad o effaith economaidd sydd wedi ei wneud mewn perthynas â'r cynlluniau arfaethedig i gau ffyrdd ymuno ac ymadael ar Gyffordd 41 yr M4? OAQ(4)0400(EST)

 

8. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ardrethi busnes ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)0406(EST)

 

9. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am weithgarwch Llywodraeth Cymru i annog twf economaidd yn Sir Drefaldwyn? OAQ(4)0408(EST)

 

10. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwr presennol y diwydiant trafnidiaeth yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)0399(EST)

 

11. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru i gynyddu buddsoddiad y sector preifat yng Nghymru? OAQ(4)0407(EST)

 

12. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am welliannau i linell reilffordd y Cambrian? OAQ(4)0397(EST)W

 

13. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu'r sector gwyddorau bywyd yng Nghymru? OAQ(4)0392(EST)

 

14.William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r seilwaith trafnidiaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)0402(EST)

 

15. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ffigurau diweithdra diweddaraf yng Nghymru?OAQ(4)0393(EST)